Yr Anfarwol Ifan Harris

Ciw-restr ar gyfer Mrs Harris-Jones

 
(1, 0) 34 Nawr te, Bertie bach!
(Bertie) "Os wyt Gymro hoff o'th iaith,
 
(Bertie) A hoff o'th dadau dewrion".
(1, 0) 37 Nage Bertie, ─
(1, 0) 38 "Os wyt Gymro |hoff| o'th iaith
(1, 0) 39 A |hoff| o'th dadau dewrion".
(Bertie) {Gyda'r un oslef.}
 
(Bertie) A gwisg hi yn dy galon".
(1, 0) 45 "Gwisg genhinen yn dy {yn gosod ei llaw ar ei phen} gap!
(1, 0) 46 A gwisg hi yn dy {yn gosod ei llaw ar ei bron} galon!"
(Bertie) {Yn gwneuthur ystumiau tebyg.}
 
(Ifan) Wyt ti'n mynd i ferwi cawl?
(1, 0) 60 Evan.
(1, 0) 61 Rwy'n begian arnoch chi!
(1, 0) 62 Nawr, Bertie bach!
(Bertie) Na - 'na i ddim nawr, Mamma.
 
(1, 0) 66 Dyna fe! Dyna fe!
(1, 0) 67 Roedd popeth yn iawn nes i chwi ddwad i mewn, wrth gwrs...
(1, 0) 68 Rhaid i chi gael sarnu popeth wastad.
(Ifan) Pam?
 
(1, 0) 82 O ie!
(1, 0) 83 O ie!
(1, 0) 84 Dyna hi!
(1, 0) 85 Wyddwn i.
(1, 0) 86 A'r holl |strain| sydd ar 'y meddwl i'r dyddiau hyn, cha i ddim cymaint a dysgu pennill i'r bachgen i'w adrodd.
(Ifan) {Gyda chysgod edifeirwch.}
 
(David Henry) Paid ti a digalonni.
(1, 0) 94 Digalonni!
(1, 0) 95 Beth dal i ddweud fel yna wrth y bachgen!
(1, 0) 96 Dylai fod cywilydd arnoch chwi, Ifan!
(1, 0) 97 A ninnau'n mynd i gadw coffadwriaeth eich tad.
(Ifan) Wel, wnes i ddim ond gofyn beth oedd pwrpas y geninen yna yn i gap e.
 
(Ifan) Beth mae e'n wneud, te?
(1, 0) 100 (Yn wyllt.}
(1, 0) 101 Dysgu adrodd, mae e, gogyfer a'r unveiling ceremony sy'n cael ei gynnal yn y ty |hwn|, er cof am eich tad |chwi|, un o ddynion mwyaf Cymru!...
(1, 0) 102 Mi fyddai rhywun yn meddwl mai dad |e| {yn pwyntio at Bertie}, ac nid eich tad |chi| sy'n cael ei anrhydeddu.
(1, 0) 103 Wedi'r cwbwl, roedd e'n dad i chwi.
(1, 0) 104 Dyw e'n ddim ond enw o lys-dad i Bertie.
(Ifan) Wel?
 
(David Henry) Nawr, nawr, Ifan, machgen i...
(1, 0) 113 Pe baech chi'n hanner dyn, mi fysech yn i droi e allan o'r ty am siarad fel yna a chi.
(David Henry) Wel... y... wel... ych mab chi yw e'n iawn, ynte?
 
(1, 0) 125 David Henry!
(1, 0) 126 Sefwch fanlle'r ych chi.
(1, 0) 127 Mae eisiau'ch help chi arna i.
(David Henry) All right, Deborah, all right.
 
(David Henry) All right, Deborah, all right.
(1, 0) 129 Nawr Bertie, dewch i weud eich "pisyn" eto.
(Bertie) Na, dim nawr.
 
(Bertie) Na, dim nawr.
(1, 0) 131 Bertie!
(1, 0) 132 At once, if you please!
(Bertie) {Am un tro yn ei fywyd.}
 
(1, 0) 139 I chi mae dioloh am hyn.
(Ifan) Wel.
 
(1, 0) 151 Bertie!
(1, 0) 152 Dewch allan o'r rwm!
(1, 0) 153 Dewch allan!
(1, 0) 154 Ar unwaith!
 
(1, 0) 157 Mi ddysga i chi i uffuddhau iddo fe, a dim i fi!
 
(Ifan) 'Dwyt ti ddim yn foneddigaidd iawn i dy fam.
(1, 0) 418 Ofynnest ti i Evan, Bertie?
(Bertie) Mae e'n dweud na wnaiff e, Mamma.
 
(Bertie) Mae e'n dweud na wnaiff e, Mamma.
(1, 0) 420 Evan, rwy'n siwr y gwnewch chi gymaint a hynna i mhliso i... dysgu recitation bach i Bertie bach, gwnewch!
(Ifan) Beth ar ddaear sy'n bod nawr te?
 
(Ifan) Gynnau fach chawswn i ddim rhoi 'mhig i mewn.
(1, 0) 423 Oh come, come, Evan!
(1, 0) 424 Roeddech chi'n gneud sport gynne ond oeddech chi?
(1, 0) 425 Dysgwch y darn iddo.
(1, 0) 426 'Rych chi'n gwybod cymaint am reseito!
(Ifan) Wel yn enw popeth!
 
(Ifan) Pam nad ewch chi mlaen a'r gwaith wedi i chi ddechreu?
(1, 0) 429 Oh Evan, rych chi'n gwybod mwy na fi, a mae'ch Cymraeg chi gymaint yn well.
(Ifan) 'Wn 'im.
 
(Ifan) Mi ddylsech Cymraeg chi fod yn ddigon da.
(1, 0) 433 O, rwy'n very Welsh o ran fy ideals.
(1, 0) 434 Ond ches i ddim o'r cyfle gawsoch chi.
(Ifan) Do.
 
(Ifan) Fe gawsoch fwy.
(1, 0) 437 Ches i ddim o 'nwyn i fyny mewn Welsh atmosphere yn y cartref fel chi.
(1, 0) 438 Nawr, Evan, byddwch yn fachgen neis.
(1, 0) 439 Gnewch fel rwy'n gofyn i chwi.
(Bertie) OH! Ifan.
 
(1, 0) 449 Pa ddarn fyddech chi'n sujesto?
(Ifan) Pryd mae e'n adrodd... o flaen y seremoni?
 
(Ifan) Pryd mae e'n adrodd... o flaen y seremoni?
(1, 0) 451 Ie.
(1, 0) 452 Just o flaen yr unveiling.
(Ifan) Mae darn tarawiadol iawn gan Parry-Williams... rhywbeth am esgym y meirw.
 
(1, 0) 455 Oh Evan!
 
(1, 0) 457 Nawr Evan, rwy am siarad a chi.
(1, 0) 458 Nawr a fyddwch chi'n neis nawr a gwrando am dipyn bach, a pheido a bod yn brofoclyd? Rych chi am y mhliso i, ond ych chi?
(Ifan) Beth ych chi eisiau?
 
(Ifan) Beth ych chi eisiau?
(1, 0) 460 Nawr, rych chi'n gwybod ond ych chi fod tipyn bach o sensation yn y pentre am yr unveiling yma...
(1, 0) 461 Pobol ddieithr yn dwad yma ac yn y blaen.
(Ifan) Wel?
 
(Ifan) Wel?
(1, 0) 463 Nawr, mae e'n strain fawr ar fy meddwl i.
(1, 0) 464 Chysges i ddim hanner nos neithiwr.
(Ifan) Wel, beth ych chi moyn codi rhyw stunt fel yma?
 
(1, 0) 467 'Dych chi ddim yn meddwl fod eich tad annwyl yn haeddu peth parch?
(Ifan) Parch be damned,...!
 
(Ifan) Parch be damned,...!
(1, 0) 469 Evan!
(1, 0) 470 For shame... yn siarad fel yna am eich tad.
(Bertie) Mi ddylai fod cywilydd amoch chi... siarad felna am y nada cynta i!
 
(1, 0) 475 Hush, Bertie!
(1, 0) 476 Gadewch rhyngof i ac Evan.
 
(1, 0) 478 Nawr, Evan, rwy'n gwybod eich bod chwi'n |all right| yn y gwaelod.
(1, 0) 479 Rych chi |yn| parchu coffadwriaeth ych tad.
(1, 0) 480 Rych chi am y mhliso i ond ydych chi?
(Ifan) Wel, beth ych chi am i mi wneud?
 
(Ifan) Wel, beth ych chi am i mi wneud?
(1, 0) 482 Nawr, rwy am i chwi wneud favour fach a fi.
(1, 0) 483 Rwy'n siwr y gwnewch chi.
(1, 0) 484 Nawr, rych chi'n gwybod fod eich tad pan oedd e byw yn annwyl iawn i mi.
(Ifan) Oedd e?
 
(1, 0) 487 Oedd!
(1, 0) 488 Cyn eich geni chwi!
(1, 0) 489 A mae gen i barch i enw e ac i'w syniade fe.
(Ifan) Beth oedd i syniade fe?
 
(Ifan) Beth oedd i syniade fe?
(1, 0) 491 Mi wyddoch chwi beth oedd i syniade fe.
(Ifan) Gwn.
 
(David Henry) Ie, wel, mae yna bwynt fan yna...
(1, 0) 500 All right, David Henry, rhyngwyf i ac Evan mae'r discussion yn awr.
(1, 0) 501 Fe adawn i hynna nawr, Evan.
(1, 0) 502 Falle eich bod chwi ddim yn gweld llawer o werth mewn commemoration ceremony fel yma i ddyn mawr.
(1, 0) 503 Very well.
(1, 0) 504 Gadawn i hynna.
(1, 0) 505 Nawr y peth wyf i am ofyn i chi yw hyn.
(1, 0) 506 Rwy am i chi wneud un favour fach... er y mwyn i,... er mwyn ych tad.
(1, 0) 507 Rych chi'n gwbod, Ifan, fod y gentlemen sy'n dwad yma i'r unveiling yn cymryd yn ganiataol y bydd i fab Ifan Harris wneud rhywbeth yn y seremoni...
(Ifan) Mi ddwedes i'n ddigon plaun ar y dechreu nad own i ddim yn mynd i gymryd unrhyw ran...
 
(Ifan) Mi ddwedes i'n ddigon plaun ar y dechreu nad own i ddim yn mynd i gymryd unrhyw ran...
(1, 0) 509 Very well... gwrandewch funud...
(Ifan) ... dim un ran o gwbwl.
 
(Ifan) ... dim un ran o gwbwl.
(1, 0) 511 Very well.
(1, 0) 512 Very well.
(1, 0) 513 'Hoswch funud nawr i fi gael explaino beth wy am i chi wneud.
(1, 0) 514 Dyna i gyd rwy eisieu i chi wneud yw rhoi un speech fach...
(Ifan) Dw...
 
(Ifan) Dw...
(1, 0) 516 Un speech fach o flaen yr unveiling.
(1, 0) 517 Nawr a ydw i'n gofyn gormod i chwi wneud un favour fach a fì am unwaith yn y mywyd?
(Ifan) Dim ffafr a chi yw'r pwynt.
 
(Ifan) Dwi ddim yn mynd i sefyll i fyny fanna a'r |bust| hyll yna tu ol i mhen i, a rhyw ddynion samllyd yn gwenu ama i, a brolio rhyw blatitiwds am 'y nhad... dwy ddim yn mynd i wneud e!
(1, 0) 520 Pam, Evan?
(1, 0) 521 Gwrandewch.
(1, 0) 522 Mae David Henry yn mynd i wneud.
 
(David Henry) Fi!?
(1, 0) 527 Ie chwi, David Henry.
(1, 0) 528 'Dych chi ddim yn mynd i wrthod cymaint a hynna.
(David Henry) Ond y Mawredd!
 
(David Henry) Wnes i ddim Speech erioed yn y mywyd!
(1, 0) 531 All right, David Henry, fe ga i siarad a chi yn nes ymlaen.
(David Henry) Ie, nage!
 
(Ifan) Leicwn i weld Napoleon wrthi.
(1, 0) 543 Wel dyna fe, Evan, os gwnewch chi, mae David Henry yn addo gneyd.
(David Henry) Gneud speech!
 
(Ifan) 'Dwy ddim yn mynd i ddwad yn agos i'r seremoni.
(1, 0) 548 Dych chi ddim yn mynd i ddwad yn agos i'r seremoni
(Ifan) Nagw.
 
(Ifan) Nagw.
(1, 0) 550 A ble mae'ch parch chi i'ch tad?
(Ifan) 'Dwn i ddim ymhle mae mharch i nhad, ond os na ddaeth e i'r golwg cyn hyn, 'dyw e ddim yn mynd i godi nawr i swn band y pentre ac areithiau Gwilym Reynolds,
 
(Ifan) 'Dwn i ddim ymhle mae mharch i nhad, ond os na ddaeth e i'r golwg cyn hyn, 'dyw e ddim yn mynd i godi nawr i swn band y pentre ac areithiau Gwilym Reynolds,
(1, 0) 552 Rhag ych cywilydd chi, Evan!
(1, 0) 553 Rhag ych cywilydd chi!
(1, 0) 554 Mae'ch tad yn gorwedd yn llonydd mewn mangre dawel ochr ddraw i'r Werydd.
(Ifan) Gobeithio i fod e.
 
(Ifan) Mae e'n cadw digon o stwr yr ochr hyn i'r mor.
(1, 0) 557 Mae ei enw yn perarogli yn ein plith ni, ac yntau'n gorwedd yn i fedd ymhlith estroniaid na wyddant am ei syniadau na'i fywyd disglair.
(Ifan) Mae pobol lwcus yn America.
 
(1, 0) 561 Yr hen un cas, brwnt, di-barch!
(1, 0) 562 Mae gas gen i am danoch chi... y... y...!
(1, 0) 563 Mae gas gen i ych bod chi'n fab i fi.
(1, 0) 564 Rhag ych cywilydd chi!
 
(1, 0) 566 Rwy wedi treio drwy mywyd i'ch cael chi i gredu mewn rhai o'n ideals i.
(1, 0) 567 Mae Bertie wedi treio gwneud.
(1, 0) 568 Wnaethoch chi ddim un cynnig erioed.
(Ifan) Beth yw'ch ideals chi, Mam?
 
(Ifan) Beth yw'ch ideals chi, Mam?
(1, 0) 570 Os nad ych chi wedi i deall nw cyn hyn, ddeallwch chi ddim ohonyn nhw nawr.
(David Henry) {Wrtho'i hun yn y comel, heb ddalu sylw i'r ymddiddan.}
 
(Ifan) Ydych chi'n parchu coffadwriaeth 'y Nhad?
(1, 0) 575 Peidiwch a gofyn cwestiwn mor insulting.
(Ifan) Ydych chi mewn gwirionedd?
 
(Ifan) Er mwyn i chwi gael cadw mewn cyffyrddiad a'r bobol fawr yma...
(1, 0) 579 Rych chi'n hollol insulting.
(Ifan) Ydw.
 
(Ifan) Treiwch hi roi rhai o syniade yr anfarwol Ifan Harris mewn gweithred a mi ddweda inne beth yn y byd a fynnoch chi yn y seremoni!
(1, 0) 586 Peidiwch a siarad mor ffol.
(1, 0) 587 Sut gall benyw wan fel fi roi gweithred i syniadau dyn mawr fel efe!
(Ifan) Pam ych chi'n codi stunt fel yma?
 
(Ifan) Pam ych chi'n codi stunt fel yma?
(1, 0) 589 Mae'r gair yna'n hollol discourteous - hollol, pan yn son am commemoration service ych tad.
(Ifan) Wel, os ych chi am i fi siarad yn yr unveiling... mi wnaf.
 
(1, 0) 592 Wel pam na ddywedsech chi fel yna ar unwaith?
(David Henry) Does dim eisie i |fi| wneud speech, oes e?
 
(1, 0) 597 Beth ddywedwch chi?
(Ifan) Gadewch chi hynny i fi.
 
(1, 0) 600 O ie! O ie!
(1, 0) 601 Rhywbeth cas eto!
(Ifan) Gaf i ddweud y gwirionedd am dano, mam?
 
(1, 0) 604 Na chewch!... y... cewch... hynny yw...
(Ifan) Wnaiff hi ddim o'r tro i ddweud y gwir am ddyn marw, mam!
 
(Ifan) Wnaiff hi ddim o'r tro i ddweud y gwir am ddyn marw, mam!
(1, 0) 606 Very cheap, Evan, very cheap.
(1, 0) 607 Does neb eisie clywe beth ych chi'n alw'n wirionedd.
(1, 0) 608 Peidiwch a dwad yn agos i'r seremoni!
(1, 0) 609 Gwell gen i chi gadw draw.
(Ifan) Rwy'n folon dwad yna a rhoi eglurhad am y tro cyntaf yn i hoes i rai o'r bobol barchus yna beth oedd syniade Nhad mewn gwirionedd.
 
(Ifan) Hyd y gwn i does neb arall yn i deall nw, a dw inne ddim yn honni mod i'n i credu nhw i gyd.
(1, 0) 612 Ddewch chi ddim yn agos, Evan... dim ar ych perigl!
(1, 0) 613 Sefwch o'r ffordd, a rhowch le i bobl ddieithr i ddangos parch i'ch tad yn ei gartref.
(1, 0) 614 Fe gaiff 'i fab fod lawr yn y dafarn gyda scums y pentre.
(Ifan) Gaf i wneud araith i Napoleon, te?
 
(Ifan) Gaf i wneud araith i Napoleon, te?
(1, 0) 616 Na chewch! Fe wna i araith iddo fe.
(David Henry) Deborah!
 
(Bertie) Mae Ann allan mam!
(1, 0) 646 O'r goreu.
(1, 0) 647 Fe ateba i'r drws.
 
(1, 0) 650 Mr Inskip, ddyweddsoch chi?
(Mr Inskip) le, Inskip.
 
(Mr Inskip) Enw Saesneg sydd arna i, ond Cymro wyf i serch hynny.
(1, 0) 653 Oh really.
(1, 0) 654 O wel, Cymraeg yw'r cwbwl yn y ty hwn...
(1, 0) 655 Ewch i lan i'r llofft, Bertie bach, there's a good boy!
 
(1, 0) 657 Wel dyma rwm Mr Ifan Harris pan oedd e byw.
(Mr Inskip) {Yn addolgar.}
 
(Mr Inskip) A dyma rwm yr anfarwol Ifan Harris?
(1, 0) 661 Ie siwr.
(1, 0) 662 Fe dreuliodd 'y mhriod a minna lawer awr ddedwydd yn y rwm yma!
(Mr Inskip) {Yn drist.}
 
(Mr Inskip) Wel, rhaid i chwi fy esgusodi i am daro ar eich traws fel yma... dyn dieithr hollol, ond fedrwn i byth fynd adre heb alw i weld ty yr anfarwol Ifan Harris!
(1, 0) 668 O, rych chi'n welcome.
(1, 0) 669 Ry ni, - y mab a minnau bob amser yn hoffi croesawu rhai fydd yn dwad yma i weld y ty mewn ysbryd o wir barch at 'y mhriod annwyl.
(Mr Inskip) Ie siwr, ie siwr, mae e'n gredud mawr i chi.
 
(Mr Inskip) Arhoswch chi, mae'r mab, Mrs Harris... y... Mrs Jones... y... na sefwch chi...
(1, 0) 673 Mrs Harris-Jones, Mr Inskip.
(Mr Inskip) {Yn gwenu'n wanllyd.}
 
(Mr Inskip) Mrs Harris Jones, mae'r mab gartref, ond ydi e, ar hyn o bryd?
(1, 0) 677 Ydi siwr, Mr Inskip.
(Mr Inskip) Dear me! Mae e'n siwr o fod a pharch mawr i enw ei dad.
 
(Mr Inskip) Dear me! Mae e'n siwr o fod a pharch mawr i enw ei dad.
(1, 0) 679 Y... ydi... ydi.
(1, 0) 680 Mae e'n siarad llawer am i dad.
(Mr Inskip) Debyg iawn.
 
(1, 0) 685 O ydi.
(1, 0) 686 'I dad yw'r cwbl gan Evan.
 
(Mr Inskip) Sefwch chi, Mrs Jones... y... Mrs Harris...
(1, 0) 690 Mrs Harris-Jones.
(Mr Inskip) {Yn gwenu'n wanllyd ac yn mwmian.}
 
(1, 0) 695 Naddo siwr, na.
 
(1, 0) 697 Roedd ei dad newydd groesi draw i'r America pan a gafodd Evan bach ei eni.
(Mr Inskip) {Yn ochain.}
 
(Mr Inskip) A 'dyw 'i dad yn ddim ond enw iddo?
(1, 0) 703 Dim ond enw yn unig, Mr Inskip.
(Mr Inskip) Ond enw mawr iawn, serch hynny!
 
(1, 0) 707 Dyma gadair Mr Ifan Harris.
(Mr Inskip) {Yn adfywio.}
 
(Mr Inskip) Wel, wel!
(1, 0) 712 Ie, yn hon yr eisteddodd mhriod bob nos pan oedd e yma.
(Mr Inskip) Wel, wel!
 
(Mr Inskip) A dyma gadair yr anfarwol ifan Harris?
(1, 0) 715 Ie.
(1, 0) 716 Yn hon yr eisteddai y mhriod bob nos pan oedd e yma.
(Mr Inskip) Wel, wel!
 
(Mr Inskip) A dyma...
(1, 0) 719 Hoffech chi gael eistedd ynddi, Mr Inskip?
(Mr Inskip) Mi fyddai'n anrhydedd fawr, Mrs Jones-Harris.
 
(Mr Inskip) Mi fyddai'n anrhydedd fawr, Mrs Jones-Harris.
(1, 0) 721 Eisteddwch te, Mr Inskip.
(Mr Inskip) Wel, wel!
 
(1, 0) 727 Right opposite i chwi fanna mae pen ysgrifennu Mr Harris.
(Mr Inskip) 'Dych chi ddim yn dweud mai dyma ysgrifbin yr anfarwol ifan Harris?
 
(Mr Inskip) 'Dych chi ddim yn dweud mai dyma ysgrifbin yr anfarwol ifan Harris?
(1, 0) 730 A hwnna yr ysgrifennodd e rai o'i bethau goreu i'r Wasg.
(Mr Inskip) {Yn tynnu hen amlen glas allan o'i logell.}
 
(Mr Inskip) Mrs Jones-Harris, a gaf i... a gaf i ysgrifennu nodyn a'm llaw fy hun a phen yr anfarwol Ifan Harris?
(1, 0) 733 Wel, Mr Inskip, 'does neb wedi cyffwrdd a'r i pen yna ers blynyddau, a neb wedi newid y níb.
(Mr Inskip) O!
 
(Mr Inskip) Gwell peidio.
(1, 0) 737 Ond fe gewch chi...
(Mr Inskip) {Yn penderfynol.}
 
(Mr Inskip) Dim am y byd!
(1, 0) 742 Fe gewch chi, Mr Inskip, ysgrifennu a phen 'y mhriod annwyl.
(Mr Inskip) A gaf i?
 
(Mr Inskip) A gaf i?
(1, 0) 744 Cewch.
(Mr Inskip) {Yn codi ei ben i fyny eto.}
 
(1, 0) 749 Mrs Harris-Jones.
(Mr Inskip) {Yn mwmian.}
 
(Mr Inskip) {Yn ysgrifennu eto.}
(1, 0) 760 Wel, rwy' bob amser yn dweud wrth Evan bach mod i'n leico gweld pobl ddieithr yn talu parch i'r pethau bach adawodd Evan ar ei ol.
(Mr Inskip) {Yn ysgrifennu heb dalu rhyw lawer o sylw.}
 
(Mr Inskip) Mi leicwn gael gwybod un peth.
(1, 0) 767 Wel?
(Mr Inskip) Mi fyddai mhleser i lawer yn fwy pe cawn i wybod.
 
(1, 0) 773 'Dwy ddim yn meddwl mai Evan a ysgrifennodd hwnnw.
(Mr Inskip) {Yn ddifles iawn.}
 
(1, 0) 782 Na'r darn yna chwaith.
(Mr Inskip) {Gydag un ymdrech arall.}
 
(Mr Inskip) Wel, "Yr Eneth Gath 'i Gwrthod", te?
(1, 0) 785 Dwy ddim yn meddwl i Evan ysgrifennu llinell o farddoniaeth yn ei fywyd.
(Mr Inskip) O!
 
(Mr Inskip) O!
(1, 0) 787 Prose yw i weithiau fe i gyd.
(Mr Inskip) O!
 
(1, 0) 790 Dyna ddesc Mr Harris pan oedd e byw.
(Mr Inskip) O!
 
(Mr Inskip) O!
(1, 0) 793 Rhaid i chwi fy esgusodi i am funud, Mr Inskip.
(1, 0) 794 Mi ddof yn ol ymhen tipyn bach.
(Mr Inskip) O'r goreu.
 
(1, 0) 908 Evan!
 
(1, 0) 910 Evan! rhag ych cywilydd chwi!
 
(1, 0) 912 Mr Inskip, peidiwch a gwrando arno.
(1, 0) 913 Gneud ffwl ohonoch chi mae e.
(1, 0) 914 Rhag ych cywilydd chwi, Evan!
(Mr Inskip) O...
 
(Mr Inskip) 'Dwy ddim yn deall yn hollol...
(1, 0) 918 Mae'n ddrwg gen i am hyn... fod Evan wedi bod mor ddiscourteous.
(Mr Inskip) O, wel.
 
(Mr Inskip) {Yn symud at y drws.}
(1, 0) 924 Mae'n ddrwg iawn gen i.
(1, 0) 925 Dwy ddim yn gwybod beth arall ddywedodd e...
(Mr Inskip) O wel, mae'n all right.
 
(Mr Inskip) Wel, good-bye, Mrs Harris...y... Mrs Jones... good-bye.
(1, 0) 929 Good-bye, Mr Inskip, good-bye.
(1, 0) 930 Mae'n ddrwg gen i am hyn.